Wici'r Holl Ddaear

Logo Cymru yn y gystadleuaeth fydeang
Map o'r gwledydd a oedd yn cymryd rhan

Cystadleuaeth ffotograffiaeth rhyngwladol a gynhelir gan brosiectau Wicimedia yw Wici Daear (Wiki Loves Earth), ble mae'r cystadluwyr yn uwchlwytho eu lluniau i Gomin Wicimedia. Mae'n rhaid i'r lluniau cael eu cymryd mewn mannau cadwraethol ee Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru, Rhywogaethau mewn perygl yn ôl Rhestr Goch yr IUCN, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, Parciau Cenedlaethol Cymru, neu Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru‎‎. Ceir categori cyfan o ffotograffau a dynnwyd yn Ffrainc, er enghraifft. Yn 2021, cystadleuodd Cymru am y tro cyntaf.

Y bwriad yw uwchlwytho cymaint â phosib o luniau naturiol o'r Ddaear, yn daearyddol neu o ran daeareg, mannau dan sy'n cae; eu gwarchod o ran cadwraeth, llefydd dan fygythiad ayb - ar drwydded agored. Drwy uwchlwytho lluniau fel hyn, y gobaith yw y gellir codi proffil breuder y blaned a'r bywyd bregus sydd arni, fel y gellir eu gwarchod yn well. Bydd y ffotograffau hyn yn cael eu defnyddio i ddylunio erthyglau Wicipedia ac eraill, yn Gymraeg a phob un o'r 288 iaith arall.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy